Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) (Diwygio) (Cymru) 2019

 

Pwynt craffu ar rinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr amserlen ar gyfer gwneud y diwygiadau hyn o gymharu â Lloegr a’r Alban. Bu’n rhaid ailflaenoriaethu gwaith y Gangen Polisi Adnoddau Coedwigoedd i fodloni gofynion sy’n cystadlu, yn enwedig yn fwy diweddar yn sgil Brexit.  Mae camau’n cael eu cymryd i ymdrin â hyn, a rhagwelir y bydd y cynigion ar gyfer Swyddogaethau Coedwigaeth Trawsffiniol newydd i Brydain Fawr ar ôl 1 Ebrill 2019 yn gam cadarnhaol yn hyn o beth.  Mae’r swyddogaeth Iechyd Planhigion hefyd wedi sefydlu Grŵp Llywio Iechyd Planhigion Trawsffiniol, a fydd yn fforwm defnyddiol er mwyn i Swyddogion Llywodraeth Cymru gymryd rhan yn unrhyw drafodaethau ynghylch diwygiadau arfaethedig i bolisïau/deddfwriaeth yn gynnar yn y broses.